Nehemiah 13

Gwahanu oddi wrth bobl estron

1Ar yr un diwrnod, pan oedd Cyfraith Moses yn cael ei darllen i bawb, dyma nhw'n darganfod fod pobl Ammon a Moab wedi eu gwahardd am byth rhag perthyn i gynulleidfa pobl Dduw. 2Y rheswm am hynny oedd eu bod wedi gwrthod rhoi bwyd a dŵr i bobl Israel a, ac wedi talu Balaam i'w melltithio nhw (er fod ein Duw ni wedi troi y felltith yn fendith!) b 3Felly pan glywon nhw hyn yn y Gyfraith, dyma pawb oedd o dras cymysg yn cael eu taflu allan.

Diwygiadau Nehemeia

4Beth amser cyn hyn i gyd, roedd Eliashif yr offeiriad wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y stordai yn y deml. Roedd Eliashif yn perthyn i Tobeia, 5ac roedd wedi gadael i Tobeia ddefnyddio un o stordai y deml. Pethau'r deml oedd yn arfer cael eu storio yno – yr offrwm o rawn, y thus, offer y deml, a hefyd y degfed rhan o'r grawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd oedd i gael ei roi i'r Lefiaid, y cantorion, gofalwyr y giatiau, a cyfran yr offeiriaid.

6Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd
13:6 433–432 CC Erbyn hyn roedd Nehemeia wedi bod yn llywodraethwr ers 12 mlynedd – gw. Nehemeia 1:1
roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo
7i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi ei wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio. 8Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy. 9Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus.

10Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir. 11Felly dyma fi'n mynd i gwyno i swyddogion y ddinas, a gofyn “Pam mae teml Dduw yn cael ei hesgeuluso?” Wedyn dyma fi'n galw'r Lefiaid yn ôl at ei gilydd, a rhannu eu cyfrifoldebau iddyn nhw.

12Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod a'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto. 13Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr.

14O Dduw, plîs cofia beth dw i wedi ei wneud. Paid anghofio'r cwbl dw i wedi ei wneud ar ran teml fy Nuw a'r gwasanaethau ynddi.

Ail sefydlu rheolau'r Saboth

15Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod pobl yn Jwda oedd yn sathru grawnwin ar y Saboth. Roedden nhw'n llwytho asynnod a dod â'u cnydau i'w gwerthu yn Jerwsalem ar y Saboth – grawn, gwin, grawnwin, ffigys, a pob math o bethau eraill. Dyma fi'n eu ceryddu nhw y diwrnod roedden nhw'n gwerthu'r cynnyrch yma i gyd. 16Roedd pobl Tyrus oedd yn byw yno yn dod â physgod a pob math o gynnyrch arall i'w werthu i bobl Jwda ar y Saboth. Roedd hyn i gyd yn digwydd yn Jerwsalem o bobman! 17Felly dyma fi'n mynd at bobl bwysig Jwda i wneud cwyn swyddogol. “Sut allwch chi wneud y fath ddrwg? Dych chi'n halogi'r dydd Saboth! 18Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn d, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!”

19Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth. 20Arhosodd y masnachwyr a'r rhai oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau tu allan i Jerwsalem dros nos unwaith neu ddwy. 21Ond dyma fi'n eu rhybuddio nhw, “Os gwnewch chi aros yma dros nos wrth y wal eto, bydda i'n eich arestio chi!” Wnaethon nhw ddim dod yno ar y Saboth o hynny ymlaen. 22Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig.

O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i.

23Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod fod llawer o Iddewon wedi priodi merched o Ashdod, Ammon a Moab. 24Roedd hanner y plant yn siarad iaith Ashdod neu ieithoedd rhyw bobloedd eraill. Doedden nhw ddim yn gallu siarad Hebraeg. 25Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a tynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain! 26Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu! 27Felly ydy'n iawn i ni oddef y drwg yma dych chi'n ei wneud? Dych chi'n bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi'r merched estron yma!”

28Roedd un o feibion Jehoiada, mab Eliashif yr archoffeiriad, wedi priodi merch Sanbalat o Horon. A dyma fi'n gwneud iddo adael y ddinas.

29O Dduw, paid anghofio beth maen nhw wedi ei wneud. Maen nhw wedi halogi'r offeiriadaeth, a'r ymrwymiad mae offeiriaid a Lefiaid yn ei wneud.

30Felly dyma fi'n eu puro nhw o bob dylanwad estron, ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r offeiriaid a'r Lefiaid. 31Dyma fi hefyd yn trefnu amserlen i roi coed i'w losgi ar yr allor, a cynnyrch cyntaf y tir.

O Dduw, cofia hyn o'm plaid i.

Copyright information for CYM